Lleoliad:
Conference Room 4B - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Llun, 18 Medi 2017
Amser: 13.00 -
12.30
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Bwrdd Rheoli: |
Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad Adrian Crompton, Cyfarwyddwr Busnes y Cynulliad Anna Daniel, Pennaeth Trawsnewid Strategol Non Gwilym, Pennaeth Cyfathrebu Elisabeth Jones, Prif Gynghorydd Cyfreithiol Nia Morgan, Cyfarwyddwr Cyllid Mair Parry-Jones, Pennaeth y Gwasanaeth Cyfieithu a Chofnodi Mark Neilson, Pennaeth TGCh a Dalledu Kathryn Potter, Pennaeth y Gwasanaeth Ymchwil Matthew Richards, Pennaeth y Gwasanaeth Cyfreithiol Craig Stephenson, Cyfarwyddwr Dros Dro Gwasanaethau’r Comisiwn Sulafa Thomas, Pennaeth y Gwasanaeth Cymorth i'r Comisiwn ac i'r Aelodau Dave Tosh, Cyfarwyddwr Adnoddau Christopher Warner, Pennaeth Gwasanaeth y Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Lowri Williams, Head of Human Resources |
Staff y Bwrdd Rheoli: |
Ryan Bishop (Ysgrifenyddiaeth) |
Eraill yn bresennol |
Cafwyd ymddiheuriadau gan Gareth Watts (Pennaeth Llywodraethu ac Archwilio) a Rhuanedd Richards (Cynghorwr Polisi y Llywydd)
Bydd Siân Wilkins yn drafftio nodyn am drafodaethau’r Bwrdd Rheoli ar gyfer tudalen newyddion y staff.
Cytunwyd bod cofnodion cyfarfod y Bwrdd Rheoli a gynhaliwyd ar 15 Awst yn gywir.
Rhoddodd Manon Antoniazzi y wybodaeth ddiweddaraf i'r Bwrdd Rheoli ynghylch deilliannau'r Comisiwn o'r diwrnod cwrdd i ffwrdd a gafwyd ar 12 Medi lle trafododd y Comisiynwyr, ymhlith pethau eraill, eu blaenoriaethau a dull strategaeth y gyllideb. Clywodd y Bwrdd fod y Comisiynwyr wedi cytuno i barhau â strategaeth y gyllideb a baratowyd yr adeg hon y llynedd, ar yr amod y gellir trafod ymhellach a chytuno'n derfynol ar bethau yng nghyfarfod y Comisiwn ar 25 Medi.
Wrth drafod strategaeth y gyllideb, roedd y Comisiynwyr am gael dealltwriaeth well o'r niferoedd staffio presennol. Mae'r Llywydd wedi gofyn i Manon gynnal adolygiad capasiti rhwng nawr a diwedd y flwyddyn er mwyn sicrhau y gall y Cynulliad ddal i gefnogi blaenoriaethau'r Comisiwn yn wyneb pwysau allanol cynyddol.
Byddai'r adolygiad hefyd o gymorth i'r Comisiynwyr ddeall sut y mae adnoddau wedi'u dyrannu o fewn y sefydliad ar hyn o bryd, a gwerthuso ai dyma'r defnydd mwyaf effeithiol ac effeithlon o adnoddau i gyflawni amcanion y Comisiwn ar gyfer y Pumed Cynulliad a thu hwnt.
Dywedodd Manon mai tîm y Dadansoddwyr Busnes fyddai'n arwain yr adolygiad, â chymorth gan gydweithwyr yn y Gwasanaeth Adnoddau Dynol, Trawsnewid Strategol a'r Undebau Llafur. Byddai'r argymhellion a ddaw yn sgil yr adolygiad yn cael eu trafod yn eu tro yng nghyfarfod y Bwrdd Rheoli, lle caiff yr holl wasanaethau eu cynrychioli.
Byddai'r adolygiad yn un byr ag iddo ffocws, gan fwriadu i unrhyw argymhellion gael eu cyflwyno i'r Comisiwn erbyn diwedd y flwyddyn.
Atgoffodd Dave Tosh y Bwrdd fod dechrau'r tymor newydd yn gyfle i ddiweddaru cofrestrau risg gorfforaethol ar draws y sefydliad.
Dylid parhau i roi gwybod ar lefel y Gwasanaeth am risgiau newydd a risgiau sy'n newid, a dylai Penaethiaid Gwasanaeth a Hyrwyddwyr Risg ystyried beth y dylid ei nodi ar gyfer y Gofrestr Risg Gorfforaethol, cyn adolygiad ffurfiol y Bwrdd Rheoli fis Hydref.
1.1 CAM I'W GYMRYD:
· Gofynnodd y Bwrdd Rheoli i'r cofrestrau risg gorfforaethol gael eu hadolygu a'u diweddaru cyn eu trafod yn ffurfiol yng nghyfarfod y Bwrdd Rheoli ar 23 Hydref.
Trafododd y Bwrdd flaenraglen waith y Bwrdd Rheoli a Chomisiwn y Cynulliad.
Gofynnodd Manon i'r Bwrdd nodi'r terfynau amser yn y papur a dywedwyd y dylid rhoi gwybod i'r ysgrifenyddiaeth mewn da bryd os oes unrhyw broblemau o ran bodloni'r terfynau amser hynny.
Trafododd y Bwrdd yr Adroddiad ar Reoli Cyllid ar gyfer mis Awst, a hynny cyn i'r adolygiad nesaf gael ei gynnal ddiwedd mis Medi. Mae'r sefyllfa ariannol ar gyfer eleni yn parhau i fod yn heriol, felly bydd angen bod yn ofalus wrth reoli arian er mwyn cadw o fewn y gyllideb. Gofynnwyd i'r Bwrdd adolygu'r ffigurau ar gyfer eu meysydd gwasanaeth i sicrhau eu bod yn fanwl gywir.
Nododd Nia Morgan y bydd gofyn i'r Bwrdd gynorthwyo gyda'r gwaith o gasglu'r wybodaeth ofynnol gan y bydd yn ymddangos gerbron y Pwyllgor Cyllid a'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus.
Atgoffwyd y Bwrdd y bydd Catharine Bray yn Bennaeth Cyllid dros dro tra bo Lisa Bowkett ar gyfnod mamolaeth ac y byddai Catharine yn cwrdd ag aelodau'r Bwrdd Rheoli yn unigol dros yr wythnosau sydd i ddod.
1.1 Cyflwynodd Non Gwilym y grid i'r Bwrdd, gan egluro y bwriedir iddo ddarparu rhagolwg o ymrwymiadau'r tîm Cyfathrebu, gan gynnwys cyfnodau penodol o bwysau, a hynny hyd at ddiwedd 2017. Nododd Non y byddai'r grid yn dibynnu ar ddiweddariadau rheolaidd gan feysydd gwasanaeth er mwyn iddo fod yn offeryn defnyddiol a chytunodd y Bwrdd i drafod ymhellach y ffordd fwyaf priodol i sicrhau y caiff y ddogfen ei rhannu'n fwy hwylus at ddibenion cynllunio.
1.2 Cydnabu'r Bwrdd i'r Cynulliad gael ei ddangos mewn goleuni da yn sgil digwyddiadau'r haf a dywedwyd y byddai'r grid yn helpu i sicrhau na châi cyfleoedd eu colli yn y dyfodol drwy ddarparu trosolwg o weithgareddau ar lefel strategol.
1.3 CAMAU I'W CYMRYD
· Y wybodaeth ddiweddaraf am y grid cyfathrebu i gael ei hanfon at Non Gwilym
Cafwyd cais gan Kathryn Hughes i ddiweddaru Cynlluniau Gwasanaethau Corfforaethol.